Newyddion S4C

A oes tywydd tanboeth ar y ffordd i Gymru?

14/06/2022
Haul

Mae hi'n debygol y bydd Cymru yn wynebu rhai o dymereddau uchaf y flwyddyn erbyn diwedd yr wythnos.

Erbyn dydd Gwener, fe allai'r tymheredd gyrraedd 29°C mewn rhannau o'r wlad yn ôl y Swyddfa Dywydd.

O ddydd Mawrth, fe fydd y tymheredd yn cynhesu mewn sawl rhan o Gymru ac yn cyrraedd rhyw 20°C ar ei uchaf, gyda Chaerdydd a Wrecsam yn eu plith.

Fe fydd tywydd braf a phoeth i nifer yng Nghymru ddydd Gwener, gyda disgwyl i'r tymheredd gyrraedd 27°C ym Mynwy a 26°C yn Wrecsam a'r Drenewydd.

Mae yna rybudd am lefelau UV uchel yn ogystal â lefelau paill uchel iawn drwy gydol yr wythnos.

Yr ochr arall i Glawdd Offa, gallai'r tymheredd gyrraedd 30°C neu 33°C mewn rhai ardaloedd.

Fe allai rhannau o'r Deyrnas Unedig groesi trothwy'r gwres mawr pan fo lleoliad yn cofnodi tymheredd sy'n cwrdd â neu'n uwch na'r trothwy am dridiau yn olynol.

Mae'r trothwy yn amrywio fesul sir, ac mae'n annhebygol y bydd y tymheredd yn aros yn uchel am gyfnod digon hir yng Nghymru, gyda'r penwythnos yn dod â thymheredd ychydig yn oerach.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.