
Pwy fydd yn perfformio yn 'Gig y Pafiliwn' Eisteddfod Tregaron?
Gyda llai na deufis nes Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, mae’r artistiaid bydd yn perfformio yn Gig y Pafiliwn wedi eu cadarnhau.
Mae Gig y Pafiliwn yn cael ei gynnal yn flynyddol ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod ac yn gyfle i wrando ar rai o artistiaid mwyaf poblogaidd Cymru.
Y DJ Huw Stephens fydd yn cyflwyno'r noson unwaith eto eleni.
Yr artistiaid sy'n perfformio ydy Gwilym, Adwaith, Mellt ac Alffa yn perfformio trefniannau trawiadol Owain Roberts o'u caneuon eu hunain, gyda Cherddorfa'r Welsh Pops.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses: “Mae ein neges heddiw'n syml a chlir. Cymerwch gip ar yr amserlenni a'r rhaglen nos, ac ewch ati i ddechrau cynllunio eich wythnos ar y Maes.
“Peidiwch â cholli'r cyfle i ymuno gyda ni ar gyrion Tregaron dros yr haf - fe fydd croeso mawr yn eich aros!"
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ar gyrion Tregaron yn cael ei chynnal o 30 Gorffennaf tan 6 Awst.