Alana Spencer, cyn-enillydd rhaglen The Apprentice, yn yr ysbyty ar ôl damwain
Mae enillydd rhaglen The Apprentice, Alana Spencer, wedi ei chludo i'r ysbyty ar ôl torri pedair asen mewn damwain yn y gwaith.
Fe wnaeth Ms Spencer, sy'n wreiddiol o Aberystwyth, ennill y ddeuddegfed gyfres o'r sioe BBC yn 2016, gan ennill gwerth £250,000 o fuddsoddiad er mwyn cychwyn ei busnes cacennau a siocled, Ridiculously Rich.
Ers hynny, mae hi wedi mynd yn ei blaen i agor amryw o gaffis yng Nghymru, o Aberystwyth i Landudno i Gaernarfon.
Mewn datganiad ar ei chyfrif Instagram, dywedodd Ms Spencer bod "pobl yn gofyn yn aml pam fy mod i'n mynnu gwneud y gwaith llaw i gyd ar ben fy hun gan ddweud wrthaf yn hytrach i gyflogi gweithwyr proffesiynol.
"Wel heddiw, am tro cyntaf erioed, dwi'n dueddol o gytuno gyda nhw!"
Llun: Alana Spencer / Instagram