Ystyried gwahardd diodydd egni i rai o dan 16 i fynd i'r afael â gordewdra
Ystyried gwahardd diodydd egni i rai o dan 16 i fynd i'r afael â gordewdra
Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu syniadau newydd i atal a lleihau gordewdra a gwella iechyd pobl ifanc.
Ymhlith y syniadau mae gwahardd gwerthu diodydd egni i rai o dan 16 oed a chyfyngu ar y siopau tecawê bwyd poeth ger ysgolion.
Mae’r ymgynghoriad yn rhan o strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach Llywodraeth Cymru.
Yng Nghymru, mae tua 1.5 miliwn o oedolion dros eu pwysau a 600,000 o’r bobl hynny yn ordew.
Yn ogystal, mae mwy nag un o bob pedwar o blant yng Nghymru yn ordrwm neu’n ordew pan maent yn dechrau yn yr ysgol gynradd.
Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod gordewdra yn costio £6.1 biliwn i’r GIG bob blwyddyn ar draws y DU.
Diodydd egni uchel
Mae’r cynnydd yn y nifer o bobl ifanc sy'n yfed diodydd egni sydd â lefelau uchel o gaffein hefyd yn arwain at bryderon am yr effaith ar eu haddysg.
Mae rhai diodydd egni yn cynnwys 21 llwy de o siwgr a’r un faint o gaffein â thair cwpanaid o goffi.
Mae ymchwil yn dangos bod plant sy’n yfed o leiaf un ddiod egni bob wythnos yn fwy tebygol o roi gwybod am broblemau fel cur pen, problemau cwsg a phroblemau stumog yn ogystal â thymer isel ac anniddigrwydd.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl, Lynne Neagle: “Mae’n amlwg nad yw plant ac oedolion yng Nghymru yn bwyta deiet gytbwys.
“Rydym wedi syrthio i batrwm lle mae bwydydd uchel mewn braster, siwgr neu halen ar gael yn hawdd.”
Mae Ms Neagle yn dymuno clywed barn pobl ar gyfyngu ar yr hawl i hyrwyddo bwydydd uchel mewn braster, siwgr neu halen, atal ail-lenwi diodydd llawn siwgr am ddim ac ehangu’r arfer o gyhoeddi calorïau ar fwydlenni.
Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn sut y gall ein cymunedau fod yn amgylcheddau iachach.
Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog: "Mae’n amlwg nad yw plant ac oedolion yng Nghymru yn bwyta deiet gytbwys. Rydym wedi syrthio i batrwm lle mae bwydydd uchel mewn braster, siwgr neu halen ar gael yn hawdd."
‘Her’
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd yr ymarferydd iechyd, Tomos Jones fod “bod uwchlaw y pwysa' iach” yn her ynddo ei hun.
“Mae sawl elfen yn cyfrannu at yr her yma, megis costau bwyd yn cynyddu, mwy o ddewisiadau afiach yn hytrach na rhai iach.
“Dwi wir yn gobeithio dros y 10 mlynedd nesaf bydd y strategaeth yn mynd i’r afael â’r pethau yma sy’n cyfrannu at yr her."
Dywedodd hefyd ei fod yn gobeithio bydd y strategaeth newydd yn gosod sylfaen i’r genedl fel bod modd parhau gyda’r strategaeth yn y dyfodol.
Bydd yr ymgynghoriad yn parhau hyd at 1 Medi.