Newyddion S4C

Boris Johnson: 'Dim na neb' yn mynd i'w atal rhag parhau yn ei swydd

The Telegraph 08/06/2022
Boris Johnson 26_01_22

Mae Boris Johnson wedi anfon neges herfeiddiol i'r rebeliaid o fewn ei blaid yn ystod sesiwn holi'r prif weinidog yn San Steffan ddydd Mercher.

Dywedodd na fyddai "dim na neb" yn ei atal rhag parhau yn ei swydd. 

Fe ddaeth ei sylwadau ar ôl iddo ennill pleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth nos Llun.

Fe bleidleisiodd 211 o Aelodau Seneddol o blaid y prif weinidog, gyda 148 yn gwrthwynebu, gan olygu bod ganddo fwyafrif o 63.

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.