Casglu barn am lifogydd yn Sir Gâr a Cheredigion
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Ceredigion a Chyfoeth Naturiol Cymru yn cyd-weithio er mwyn casglu barn trigolion y siroedd ar gynigion i leihau llifogydd yn ardaloedd Llanybydder, Llandysul a Phont-Tyweli.
Mae'r tri sefydliad yn awyddus i glywed barn pobl yr ardal er mwyn deall prosesau llifogydd yn well ac asesu gwahanol opsiynau i leihau llifogydd. Daw hyn yn sgil tywydd stormus cynyddol yn ystod misoedd y gaeaf.
Yn 2018, fe ddioddefodd yr ardaloedd hynny yn ystod Storm Callum pan fu difrod mewn cartrefi ac adeiladau, a ffyrdd ar gau.
Yn dilyn Storm Callum, mae Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd ac wedi nodi rhai opsiynau posibl ar gyfer lleihau llifogydd.
Mae nifer o gynigion wedi eu cyflwyno, o fesurau naturiol i reoli llifogydd, adeiladu argloddiau, amddiffynfeydd uwch ac amddiffynfeydd dros dro.
Bydd yr arolwg yn cael ei gynnal ar-lein rhwng Mehefin 6 â Gorfennaf 18. Bydd yr ymatebion yn cael eu hystyried yn y camau nesaf i fynd i'r afael â phroblemau llifogydd, yn ôl Cyngor Sir Caerfyrddin.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, y Cynghorydd Edward Thomas: “ Mae'r gwaith hwn yn dilyn yr asesiadau cychwynnol blaenorol a gwblhawyd ar ddiwedd 2020. Byddwn yn annog cynifer â phosibl o drigolion sy'n byw yn yr ardaloedd hyn i roi eu hadborth.”