Newyddion S4C

Cyhoeddi llyfrau i blant yng Nghymru am deuluoedd o’r un rhyw

Golwg 360 04/06/2022
Llyfrau newydd i blant yng Nghymru

Mae llyfrau newydd yn cael eu cyhoeddi yng Nghymru sy’n cynnwys teuluoedd o’r un rhyw.

Mae’r llyfrau Yn gynnar yn y bore a Dim Chwarae, Mot! yn gyfieithiad o lyfrau'r awdur Sbaeneg Lawrence Schmiel ac Elina Braslina o Latfia.

Bydd pob ysgol gynradd yng Nghymru yn derbyn copi am ddim o’r llyfrau sy’n cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg a’r Saesneg gan asiantaeth Peniarth mewn partneriaeth â Stonewall Cymru.

Dywedodd Iestyn Wyn o Stonewall Cymru: “Mae sicrhau bod teuluoedd LHDTC+ yn cael eu cynrychioli yn ein llenyddiaeth a’n diwylliant yn hollbwysig.”

Darllenwch fwy yma.

Llun: Prifysgol y Drindod Dewi Sant
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.