Rhybudd am stormydd mellt a tharanau i Wynedd
Rhybudd am stormydd mellt a tharanau i Wynedd
Mae rhybudd y gallai stormydd mellt a tharanau effeithio Sir Gwynedd brynhawn ddydd Gwener.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gallai'r stormydd gwasgaredig effeithio ar amodau gyrru, amseroedd trenau a chyflenwadau trydan i gartrefi a busnesau am gyfnod byr.
Gallai hyd at 20-30mm o law ddisgyn mewn mannau ac mae disgwyl cyfnodau o gesair a mellt.
Daeth y rhybudd melyn i rym am 15:23 ac mae'n para nes 18:00.
Mae’r Heddlu Gogledd Cymru wedi rhybuddio bod Stryd fawr Cricieth a'r ardaloedd cyfagos dan ddŵr ac yn gofyn i bobl osgoi'r ardal lle bo modd.
Ongoing incident, Criccieth high street and surrounding areas are flooded. Please be aware of long delays. Avoid area where possible pic.twitter.com/0pwRe2YFvR
— North Wales Police (@NWPolice) June 3, 2022