Newyddion S4C

Wcrain

100 dydd o ryfel: Rwsia'n 'rheoli 20% o Wcráin' medd Zelensky

Sky News 03/06/2022

Mae arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, wedi dweud fod Rwsia bellach yn rheoli 20% o dir ei wlad, 100 niwrnod ers i fyddin Vladimir Putin ymosod arni.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, ers i'r rhyfel dechrau ym mis Chwefror, mae dros 4,000 o bobl cyffredin wedi'u lladd yn y wlad. 

Mae dros saith miliwn o bobl hefyd wedi foi o'u cartrefi yn sgil yr ymladd, gan sbarduno'r argyfwng ffoaduriaid mwyaf yn Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd. 

Er hyn, mae Wcrain wedi gwrthsefyll byddin Rwsia oedd yn credu y byddai'r wlad yn ildio o fewn dyddiau. Ond gyda chymorth llywodraethau'r gorllewin, fe rwystrodd ei lluoedd fyddin Rwsia rhag cipio grym dros ran helaeth o'i thir.

Darllenwch fwy yma

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.