Teyrnged i fenyw fu farw mewn salon harddwch yn Abertawe

Mae gŵr menyw fu farw mewn salon harddwch yn Abertawe wedi rhoi teyrnged iddi.
Bu farw Piata Tauwhare, 30 oed, ac yn wreiddiol o Seland Newydd, yn salon lliw haul Lextan yn ardal Fforest-fach o Abertawe ar ddydd Sadwrn, 28 Mai.
Y gred yw ei bod wedi dioddef ataliad ar y galon.
Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd ei gŵr Ifan Jones ei bod "y person mwyaf hael yr oedd modd i chi ei gyfarfod".
Mae Mr Jones wedi cychwyn ymgyrch godi arian er mwyn i gorff Mrs Tauwhare gael ei ddychwelyd i Seland Newydd ar gyfer angladd yn y wlad honno.
Darllenwch ragor yma.