Y Jiwbilî: Gareth Bale ymysg y Cymry wedi eu hanrhydeddu
Wrth i’r Frenhines Elizabeth yr Ail nodi 70 mlynedd ers dechrau ei theyrnasiad, mae sawl person o Gymru wedi cael eu hanrhydeddu.
Unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau arbennig i wasanaethau cyhoeddus, yr amgylchedd a chynaliadwyedd ac am ymgysylltu â phobl ifanc sydd yn gymwys i gael yr anrhydedd.
Ymysg y Cymry sydd wedi derbyn yr anrhydedd mae’r AS Nia Griffith sydd wedi ei gwneud yn Fonesig Nia Griffith.
Mae'r pêl-droediwr Gareth Bale, cyn-Brif Weithredwr S4C Owen Evans, cyn-chwaraewr rygbi Brynmor Williams, y cyflwynydd tywydd Derek Brockway, y seren bop Bonnie Tyler, y bardd Gwyneth Lewis a Chomisiynydd Plant Cymru Rocio Cifuentes hefyd wedi'u hanrhydeddu.
Mae gweithwyr iechyd hefyd wedi cael eu hanrhydeddu am eu gwaith yn ystod y pendemig.
LLun: Huw Evans