Newyddion S4C

Cymru i wynebu Wcráin yn rownd derfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd

01/06/2022
S4C

Fe fydd Cymru yn wynebu Wcráin yn rownd derfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn yr Alban nos Fercher. 

Llwyddodd Wcráin i wrthsefyll ymdrechion hwyr yr Alban i ennill y gêm, gyda’r sgôr terfynol yn 3-1 i’r ymwelwyr yn Hampden Park, Glasgow, yn rownd gynderfynol Llwybr A yn y gemau ail-gyfle. 

Cafodd y gêm ei ail-threfnu o fis Mawrth i nos Fercher yn sgil ymosodiad Rwsia ar Wcráin. 

Mae'r mwyafrif o garfan Wcráin yn chwarae i glybiau yn eu gwlad ac felly heb chwarae mewn gemau cystadleuol ers i'r rhyfel ddechrau ym mis Chwefror.

Er gwaethaf y sefyllfa anodd i chwaraewyr Wcráin fe lwyddon nhw i reoli rhan helaeth o'r chwarae yn erbyn yr Albanwyr ar y noson.

Fe wnaeth Andriy Yarmolenko a Roman Yeremchuck sgorio naill ochr i'r egwyl i roi mantais gyfforddus i'r ymwelwyr. 

Ond fe wnaeth yr Alban lwyddo i sicrhau gôl gyda 10 munud o’r chwarae yn weddill wedi i Callum McGregor fanteisio ar gamgymeriad y golwr Heorhiy Bushchan. 

Er gwaethaf ymdrechion yr Alban i sgorio'r gôl a fyddai wedi golygu amser ychwanegol, arhosodd amddiffyn Wcráin yn gadarn a gyda chic olaf y gêm fe sgoriodd Artem Dovbyk drydedd gôl i’r ymwelwyr i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Bydd Wcráin nawr yn teithio i Gaerdydd ar gyfer y gêm dyngedfennol yn erbyn Cymru gyda gobeithion o gyrraedd Qatar. 

Llun: CBD Wcráin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.