Newyddion S4C

Eisteddfod yr Urdd: Canllaw cyflym i'r hyn sy'n digwydd

30/05/2022
Urdd

Gydag Eisteddfod yr Urdd yn dychwelyd ddydd Llun ar ôl cael ei gohirio am ddwy flynedd yn sgil y pandemig, mae yna ambell newid o'r pafiliwn a'r maes traddodiadol. 

Bydd tri phafiliwn ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych eleni: y Pafiliwn Coch, Gwyn a Gwyrdd ac yn wahanol i'r arfer, ni fydd yna ragbrofion sy'n golygu y bydd pob cystadleuydd yn cael y cyfle i berfformio ar y llwyfan. 

Ond pwy fydd yn cystadlu ble?

Pafiliwn Coch

Bydd unigolion sy’n cystadlu mewn cystadlaethau lleisiol ac offerynnol yn perfformio yn y pafiliwn coch. Bydd deuawdau, partïon ag amryw o gystadlaethau cerdd dant i'w gweld yma hefyd. 

Pafiliwn Gwyn

Y cystadlaethau dawns fydd canolbwynt y pafiliwn gwyn, o'r dawnsio gwerin i'r cyfoes i'r hip-hop a disgo. 

Pafiliwn Gwyrdd

Bydd y pafiliwn gwyrdd yn lwyfan i'r cystadlaethau torfol, gan gynnwys y corau mawr, ensembles, cerddorfeydd yn ogystal â'r caneuon actol.

Sut i wylio?

Bydd modd i wylwyr, yn bell ac yn agos, i wylio'r holl gystadlaethau o'r tri phafiliwn fel rhan o ddarllediad di-dor S4C o 9:00 yn ddyddiol.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.