Texas: Heddlu’n ymddiheuro am ymateb yn araf

Texas: Heddlu’n ymddiheuro am ymateb yn araf
Mae’r heddlu yn Texas wedi ymddiheuro am ymateb yn araf i’r digwyddiad mewn ysgol yn Uvalde pan gafodd 19 o blant a dau oedolyn eu saethu’n farw.
Dywedodd uwch swyddog yr heddlu Steven McGraw fod yr heddlu wedi gwneud y “penderfyniad anghywir” wrth beidio â mynd i mewn i Ysgol Gynradd Robb yn ddigon cyflym.
Ychwanegodd fod oedi o 40 munud rhwng yr amser wnaeth yr heddlu gyrraedd tan y foment aethon nhw i mewn i’r dosbarth lle’r roedd y saethwr Salvador Ramos yn cuddio.
Yn ôl adroddiadau roedd disgyblion wedi defnyddio eu ffonau symudol i alw’r heddlu am help o’r dosbarthiadau.
Yn y cyfamser, mewn anerchiad i gynhadledd y National Rifle Association yn Texas, dywedodd cyn-Arlywydd yr UDA Donald Trump: “Yr unig ffordd i atal person drwg gyda gwn yw person da gyda gwn.”
Ychwanegodd Mr Trump y dylai’r UDA ariannu ysgolion mwy diogel yn hytrach na rhoi arian i Wcráin.
Dywedodd Jason Edwards, sy'n gweithio mewn ysgol gynradd yn nhalaith Pennsylvania nad oes ganddo "y gallu i fod y person gyda gwn i amddiffyn y plant."