Newyddion S4C

Mark Drakeford yn diolch i bobl am 'ddiogelu' Cymru wrth i gyfyngiadau Covid ddod i ben

27/05/2022
Newyddion S4C
Newyddion S4C

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi diolch i bobl Cymru am "ddiogelu eu hunain a'i gilydd" wrth i holl reoliadau Covid-19  y llywodraeth ddod i ben ddydd Llun.

Ni fydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i wisgo mygydau yng ngwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru bellach.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i argymell bod pobl yn cymryd camau syml i ddiogelu eu hiechyd - gan gynnwys sicrhau eu bod yn manteisio ar y brechlynnau Covid-19 sy’n cael eu cynnig iddynt a hunanynysu os oes ganddynt symptomau Covid-19.

Daw’r llacio wrth i sefyllfa iechyd y cyhoedd barhau i wella yng Nghymru – mae canlyniadau Arolygon Heintiadau Coronafeirws diweddar yr ONS yn dangos bod y nifer o bobl sydd â COVID-19 yn lleihau.

Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Gwener, dywedodd Mark Drakeford: “Mae’r pandemig wedi cael effaith fawr ar fywydau pob un ohonom - mae pawb wedi aberthu cymaint, ac wedi gorfod gwneud newidiadau i’w bywydau dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ond diolch i’ch ymdrechion chi, gallwn symud y tu hwnt i’r ymateb argyfwng a byw’n ddiogel gyda’r feirws hwn.

“Hoffwn ddiolch i bawb am bopeth rydych wedi’i wneud i ddiogelu eich hunain a’ch anwyliaid. Rydych wedi dilyn y rheolau ac wedi diogelu Cymru.

“Mae’r adolygiad tair wythnos hwn o’r rheoliadau coronafeirws yn garreg filltir bwysig - rydym yn cwblhau’r broses raddol o bontio oddi wrth gyfyngiadau cyfreithiol ac oddi wrth yr ymateb i argyfwng y pandemig.”

'Wyliadwrus'

Ond yn yr wythnos ddiwethaf, mae pedwar prif swyddog meddygol y DU wedi rhybuddio am y risg yn sgil amrywiolion newydd – BA.4 a BA.5.

Dywedodd y Prif Weinidog y bydd Cymru’n wyliadwrus o’r amrywiolion hyn ac yn barod i ddwysau’r trefniadau profi a brechu unwaith eto os yw’r sefyllfa iechyd y cyhoedd yn newid.

Ychwanegodd: “Rydym yn parhau i fod yn wyliadwrus o’r bygythiad yn sgil amrywiolion newydd ac amrywiolion sy’n dod i’r amlwg, a byddwn yn barod i ymateb os gwelwn ledaeniad cyflym o’r feirws sy’n achosi niwed helaeth.

“Bydd parhau i gymryd camau syml, gan gynnwys sicrhau eich bod yn manteisio ar y brechlynnau sy’n cael eu cynnig i chi; hunanynysu os oes gennych symptomau COVID-19 a sicrhau hylendid dwylo da, yn bwysig i’n helpu ni i fwynhau dyfodol diogel a disglair gyda’n gilydd.”

Mae nifer y cleifion COVID-19 yn yr ysbyty hefyd wedi lleihau i lai na 700, sef y nifer isaf ers 28 Rhagfyr 2021, er bod y GIG yn parhau i fod o dan bwysau o ganlyniad i gyfuniad o bwysau argyfwng a phandemig, gyda nifer sylweddol o staff yn absennol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.