
Pobl ifanc yn poeni am safon addysg rhyw LHDTC+ yng Nghymru

Pobl ifanc yn poeni am safon addysg rhyw LHDTC+ yng Nghymru
Mae pobl ifanc LHDTC+ yn dweud bod angen mwy o addysg rhyw gynhwysfawr i’r gymuned yng Nghymru.
Mae safonau addysg rhyw yn amrywio ar draws ysgolion, gan achosi i lawer o bobl ifanc deimlo’n anwybodus am anatomeg sylfaenol, sgiliau am berthynas iach, ac arferion rhyw mwy diogel.
Mae ieuenctid LHDTC+ hefyd yn dweud eu bod yn wynebu heriau ychwanegol, gan fod pynciau LHDTC+ yn aml yn cael eu gadael allan o sgyrsiau addysg rhyw mewn ysgolion.
“Dy ni heb cael llawer iawn o addysg rhywiol, o gwbl rili” meddai Cai Parry, 18, myfyriwr yn wreiddiol o Gaerdydd
“Ac o’r amser yna, roedd e i gyd i’w wneud efo be sy’n digwydd rhwng bachgen a merch a dim byd LGBTQ+”

Mae Owain Cordingley, disgybl 15 oed o Abertawe wedi profi’r un fath o beth; “Ar hyn o bryd mae trafodaethau ynglyn â chydsyniad yn ffocysu a chanolbwyntio ar berthynas heterorhywiol, a dim yn trafod sut mae hyn yn bodoli o fewn perthynas hoyw.”

“Dwi’n meddwl bo’ hyn angen newid er mwyn dangos bod cydsyniad yn bwysig mewn pob perthynas.”
Ond mae hyn hefyd yn effeithio pobl traws Cymru fel Cai Wynne-Williams o Gaerdydd.
“Dydw i ddim yn meddwl roedd digon o wybodaeth na chynrychiolaeth o’r hyn yr oedd angen i mi neu fy nghyd-ddisgyblion, i ddweud y gwir.” meddai Cai, gan gofio ei gwersi addysg rhyw yn yr ysgol.

“Does dim trafodaeth am ryw hoyw neu berthnasoedd hoyw, sy’n parhau i hybu’r syniad hwn a’r stigma ei fod yn fudr. Mae hyn yn arwain at bobl cymryd risgiau wrth gael rhyw a diffyg gwybodaeth yn cael ei rhannu, sy’n niweidiol.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cwricwlwm newydd ar gyfer addysg rhyw a fydd yng ngorfodol mewn ysgolion erbyn Mis Medi 2022. Bwriad y ddeddf Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yw moderneiddio sut mae addysg rhyw yn cael ei dysgu ac ychwanegu addysg rhyw i’r gymuned LHDTC+.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi ymrwymo i ddarparu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (RSE) sy’n gynhwysol ac yn ddatblygiadol briodol i bawb, a fydd yn helpu i gynyddu dealltwriaeth pawb o berthnasoedd diogel, teg a chadarnhaol, beth bynnag fo’u rhyw.”
Am fwy o wybodaeth ewch i Hansh Dim Sbin.