Cwricwlwm newydd Cymru i gostio 'mwy na'r disgwyl'
Mae disgwyl i gwricwlwm newydd Cymru gostio mwy na'r gyllideb wreiddiol, yn ôl adroddiad newydd.
Bydd y cwricwlwm newydd yn dod i rym ar ddechrau’r flwyddyn ysgol ym mis Medi eleni, gan ddod â’r newid mwyaf i'r gyfundrefn addysg mewn 30 mlynedd.
Ond yn ôl yr adroddiad gan Archwilio Cymru, ni wnaeth Llywodraeth Cymru asesu costau llawn i wireddu'r cwricwlwm newydd wrth ddatblygu'r cynllun addysg.
Yn 2021, fe wnaeth y Llywodraeth amcangyfrif bod y cwricwlwm newydd wedi costio £159m i ddatblygu rhwng 2015-16 a 2020-21 gan ragfynegi rhagor o gostau gwerth £198.5m wrth weithredu'r drefn newydd rhwng 2021-22 a 2030-31.
Yn ôl ymchwiliad Archwilio Cymru, er ei bod yn anodd rhagfynegi'r costau ar hyn o bryd, mae'n bosib y bydd costau'r cwricwlwm newydd yn uwch na'r amcangyfrifon yma.
'Gwaith sylweddol'
Dywedodd yr adroddiad fod Llywodraeth Cymru wedi cydweithio'n dda gydag ysgolion i ddatblygu'r cwricwlwm, ond na chafodd y costau llawn y cynllun eu hystyried.
Daw hyn wedi i bron hanner ysgolion uwchradd benderfynu gohirio gweithredu'r cwricwlwm newydd tan 2023 yn sgil pandemig Covid-19.
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton, fod y cwricwlwm yn cynrychioli "newid sylweddol" i'r dysgwyr a'r sector addysg.
"Mae'r ffordd mae'r cwricwlwm wedi'i ddatblygu yn dda i weld," meddai.
"Ond mae datblygiadau polisi yn y dyfodol angen talu mwy o sylw i'r costau tebygol o wireddu cynlluniau er mwyn llunio asesiad cynharach a mwy cyflawn o werth prosiectau."
"Mae gwaith sylweddol dal angen ei wneud er mwyn darparu buddion llawn y newidiadau yn y cwricwlwm a bydd rhaid i Lywodraeth Cymru gofnodi'r costau wrth fynd yn eu blaen."
Mewn ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y llywodraeth yn "croesawu" canfyddiadau'r archwilydd.
"Rydym yn cydnabod sialensiau ariannol ac yn y gweithle ac wedi defnyddio mesurau hyblyg ac ymatebol tuag at fuddsoddiad, gan hefyd rhoi ysgolion y rhyddid i lunio cwricwlwm newydd o safon uchel.
"Mae hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Er ein bod yn cydnabod bod lot mwy i wneud, mae yna reswm i fod yn bositif am y cynnydd hyd yn hyn."