Newyddion S4C

S4C yn sicrhau hawliau i ddarlledu gemau pêl-droed Cymru tan 2024

25/05/2022
Cymru vs Awstria / Asiantaeth Huw Evans

Mae S4C wedi sicrhau hawliau i ddarlledu gemau tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru am ddim ar deledu cyhoeddus hyd at 2024.

Daw'r newyddion wedi cyhoeddiad fis diwethaf fod y sianel wedi colli'r hawliau i ddarlledu gemau pêl-droed Cymru wedi i UEFA arwyddo cytundeb newydd gyda chwmni o Norwy.

O 2024 ymlaen, bydd gemau Cymru yn cael eu darlledu ar wasanaeth Viaplay yn unig. 

Bydd gan y gwasanaeth ffrydio, sydd yn lansio yn y DU cyn diwedd 2022, yr hawliau i ddarlledu gemau Cymru am bedair blynedd. 

Ond ar ôl sicrhau cytundeb darlledu gyda UEFA, mi fydd cefnogwyr pêl-droed Cymru yn gallu gwylio ymgyrch nesaf Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ac ymgyrch rhagbrofol UEFA EURO 2024, yn fyw ar Sgorio Rhyngwladol.

Mae’r cytundeb yn cynnwys gemau Cymru dros y ddwy flynedd nesaf, gan gynnwys gêm oddi cartref yn erbyn Gwlad Pwyl yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA ddydd Mercher 1 Mehefin.

Dywedodd cyflwynydd Sgorio Rhyngwladol, Dylan Ebenezer: "Yn amlwg, ry’n ni wrth ein boddau fod Sgorio yn mynd i barhau i ddilyn y tîm cenedlaethol dros y ddwy flynedd nesaf, gan ddod â holl angerdd y Wal Goch i ystafelloedd byw, clybiau pêl-droed a thafarndai'r genedl.

"Mae hwn yn gyfnod hynod o gyffrous i fod yn gefnogwr Cymru. Mae gennym garfan ifanc a thalentog yn cael eu harwain gan arwyr fel Gareth Bale ac Aaron Ramsey, ac mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair dros ben. Allwn ni ddim disgwyl i ddilyn anturiaethau'r tîm unwaith eto."

'Newyddion ffantastig'

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Siân Doyle: "Rydyn ni’n hynod o falch mai S4C fydd cartref ecsgliwsif i gemau tîm pêl-droed dynion Cymru ar deledu cyhoeddus. Mae hyn wir yn newyddion ffantastig i bêl-droed yng Nghymru ac i’r iaith Gymraeg.

"Rydyn ni yng nghanol cyfnod euraidd i’n tîm cenedlaethol ac mae’n hanfodol ar gyfer tyfiant a datblygiad y gamp bod cefnogwyr yn gallu parhau i fwynhau gemau’r tîm am ddim ar deledu cyhoeddus."

Yn dilyn gêm Gwlad Pwyl yn erbyn Cymru, bydd S4C yn darlledu gêm Cymru yn Rownd Derfynol Gemau Ail-gyfle Rhagbrofol Ewrop i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA o Stadiwm Dinas Caerdydd.

Bydd Cymru yn chwarae dwy gêm gartref o’r fron yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA, yn erbyn yr Iseldiroedd ar Nos Fercher 8 Mehefin a Gwlad Belg ar nos Sadwrn 11 Mehefin a gêm oddi cartref yn erbyn Yr Iseldiroedd ar nos Fawrth 14 Mehefin.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.