Newyddion S4C

'Partïon Downing Street o dan eu sang', medd gweithwyr wrth Panorama

Rhif 10 Downing Street

Mae'r rhai a oedd yn bresennol ym mhartïon Downing Street yn ystod cyfnodau clo wedi dweud wrth raglen Panorama y BBC bod ystafelloedd o dan eu sang a phobl yn eistedd ar liniau ei gilydd.

Wrth ddychwelyd i'r gwaith y bore canlynol, mae'n nhw'n dweud bod biniau yn orlawn o sbwriel, gyda photeli gwag wedi eu gadael ar fyrddau. 

Mae'r BBC wedi clywed honiadau bod rhai o'r partïon wedi dod i ben yn hwyr iawn ac felly bod rhai wedi aros yn Downing Street dros nos.

Yn ôl y BBC, dyw Downing Street ddim yn fodlon ymateb i'r honiadau yn y rhaglen, ond mae'n nhw'n dweud y byddan nhw'n ymateb yn gyflawn i adroddiad Sue Gray, y gwas sifil ddechreuodd ymchwilio i ddigwyddiadau yn Downing Street a Whitehall cyn i Heddlu'r Met gynnal eu hymchwiliad nhw. 

Cafodd 126 o ddirwyon eu rhoi i 83 o bobl, gyda'r Prif Weinidog Boris Johnson ymhlith y rhai gafodd ddirwy am dorri rheolau Covid-19.  

Mae disgwyl i adroddiad Ms Gray gael ei gyhoeddi ddydd Mercher.  

Bydd y rhaglen Panorama yn cael ei darlledu heno ar BBC 2 am 7 yh. 

  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.