Angen 'pontio rhwng gwlad a thref' medd prif weithredwr newydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
Angen 'pontio rhwng gwlad a thref' medd prif weithredwr newydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
Mae prif weithredwr nesaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, yn dweud bod rhaid defnyddio digwyddiadau'r gymdeithas i "bontio rhwng gwlad a thref."
Mae'r gymdeithas wedi cyhoeddi mai Aled Rhys Jones sydd wedi ei benodi fel eu prif weithredwr newydd.
Fe fydd yn dechrau ar y gwaith ar 1 Medi, yn dilyn ymadawiad Steve Hughson o'r rôl.
Yn enedigol o Gwrt-y-Cadno yn Sir Gaerfyrddin, mae Aled yn wyneb cyfarwydd yn y byd amaeth.
Roedd yn ddirprwy brif weithredwr ar y Gymdeithas rhwng 2013-17.
Mae hefyd yn llais cyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru, gan ddarlledu ar raglen Bwletin Amaeth.
Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd Aled ei fod yn "anrhydedd personol enfawr" i gael ei benodi i'r swydd.
"Mae'n deimlad arbennig, ond hefyd yn gyfrifoldeb enfawr," meddai.
"Mae'r sioe wedi chwarae rhan yn fy mywyd i a dwi'n falch iawn o gael y cyfle i fod yn rhan o bennod newydd a chyffrous yn hanes y gymdeithas."
Ychwanegodd Aled ei fod yn gobeithio adeiladu ar waith y gymdeithas a datblygu'r mudiad ymhellach.
"Mae rhaid i ni ystyried yr holl newidiadau ym myd amaeth, felly mae eisiau sicrhau ein bod yn esblygu gyda'r diwydiant."
"Sicrhau ein bod yn hyrwyddo'r sgiliau bydd angen ar ffermio ar gyfer y dyfodol."
"A hefyd neud siŵr bod ein digwyddiadau ni ar safle ar blatfform i bontio rhwng gwlad a thref, rhwng cymunedau gwledig a threfol."
"Mae hwn yn gyfle i ni adrodd y stori, yr hanes positif sydd yn perthyn i amaeth yng Nghymru a chreu cymuned sydd yn deall ac yn gwerthfawrogi amaeth."
Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolwyr y Gymdeithas, yr Athro Wynne Jones, fod profiad Mr Jones yn gaffaeliad anferth i'r Gymdeithas.
"Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn croesawu ac yn llongyfarch Aled ar ei benodiad ac yn diolch i Steve am ei gyfraniad eithriadol dros y ddegawd ddiwethaf."
Llun: Telesgop