
Dim modd rhoi cyfraniad Jake Daniels i gymuned LHDT+ pêl-droed ‘mewn geiriau’
Dim modd rhoi cyfraniad Jake Daniels i gymuned LHDT+ pêl-droed ‘mewn geiriau’
Nid oes modd rhoi cyfraniad y chwaraewr Jake Daniels i gymuned LHDT+ y byd pêl-droed “mewn geiriau”, yn ôl chwaraewr sy’n rhan o’r gymuned.
Mae Brandon Gregory yn 27 oed ac yn chwaraewr a hyfforddwr gyda Chlwb Pêl-Droed Dreigiau Caerdydd, clwb cynhwysol i aelodau o’r gymuned LHDT+ yn y brifddinas.
Fe ddaeth Jake Daniels sy’n chwarae i Blackpool “allan” fel dyn hoyw yn gynharach yn yr wythnos – y pêl-droediwr proffesiynol cyntaf ers degawdau i wneud hynny.
“Fi ddim yn gallu ddweud mewn geiriau beth mae e wedi wneud os oeddwn i’n cael rhywun fel Jake pan oedd fi’n 15 oed a gweld y newyddion yna,” meddai Brandon wrth Newyddion S4C.
“Cael pobol fel yna yn so pwysig achos mae pobol ifanc angen gweld nhw yn pobol fel Jake.”
Fe ddaeth Brandon “allan” fel aelod o’r gymuned LHDT+ pan oedd e’n 15 oed.
“Roedden i ddim yn cael y choice i ddod mas, roedd e’n digwydd anyway.
“So roedd e’n un peth a wedyn pan roedd fi mynd i pêl-droed, roedd y tîm wedyn jyst ddim eisiau gwybod fi, roedden nhw ddim eisiau chwarae gyda fi.
“Nes i fynd i un sesiwn a roedd nhw ddim yn siarad i fi. Roeddwn i’n teimlo fel ghost or rhywbeth.”

'Gallu bod fi'
Erbyn hyn, mae Brandon, sy'n wreiddiol o'r Rhondda, wedi symud i Gaerdydd ac roedd ymuno â’i glwb newydd yn brofiad hollol wahanol iddo.
“Pan fi wedi then symud i Gaerdydd ble fi’n byw nawr, a wedyn yn gweld y Cardiff Dragons roedd e y place cynta’ roeddwn i’n teimlo fod fi gallu bod fi," meddai.
“Ddim yn eisiau meddwl am beth mae pobl mynd i ddweud neu beth ma’ bobol mynd i siarad amadanaf i. Roedden i jyst yn gallu bod Brandon.”
Ond yn ôl Brandon, mae yna fwy o waith i’w wneud o fewn y gamp i sicrhau fod pawb yn gallu cymryd rhan ynddi a bod yn driw i'w hunain.
“Nes i dweud wythnos diwethaf, dwi ddim yn gwybod os fi’n cael partner os o’dd fi’n teimlo’n ok fynd i gêm pêl-droed gyda nhw a mae hynna’n ddweud lot.
“Dwi’n credu mae llawer o bobl nawr yn gwybod amdano bobol ond mae still llawer o brofiadau negyddol iawn roeddwn i’n dweud am pobol sydd yn trawsrywiol neu pobol sydd yn non-binary.”
Llun: CPD Dreigiau Caerdydd