Newyddion S4C

Iechyd meddwl: Y cardiau caredig sy’n lledaenu positifrwydd

Iechyd meddwl: Y cardiau caredig sy’n lledaenu positifrwydd

Ar ddiwedd wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl mae yna gardiau caredig wedi eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar ffurf cerdyn post o  i .

Mae’r Cardiau Caredig yn rhan o bartneriaeth rhwng meddwl.org a'r darlunydd Heledd Owen.

Pwrpas y cardiau yw rhannu negeseuon neu ddyfyniadau cadarnhaol gyda’r ymgais “roi hwb postif” i ffrind, deulu neu unrhyw un sy’n eu derbyn drwy’r post neu eu gweld ar Instagram.

Image
S4C
Mae lle ar y gefn y cardiau i ysgrifennu nodyn i ffrind

Ond mae’r Cardiau Caredig i’w gweld yn wythnosol - nid dim ond yn ystod wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl.

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Heledd Owen: Mae cerdyn sy’ cynnwys neges wahanol yn mynd allan ar y cyfryngau bob dydd Llun ar dudalen meddwl.org a fi.

“Ar y diwedd fydd ‘na 54 o gardiau sy’n cynnwys negeseuon gwahanol.”

Dechreuodd y bartneriaeth yn wreiddiol yn 2020, ond golygodd Covid-19 bod rhaid rhoi seibiant i’r cardiau caredig, cyn ail gychwyn yn 2022.

Yn ôl Heledd mae neges y dyfyniadau yn amrywio o gerdyn i gerdyn.  

“Mae rhai yn gyfieithiad o ddyfyniadau Saesneg, ma’ rhai ohonyn nhw jyst yn eiria' neis fatha ‘rwyt ti’n bwysig’ neu ddyfyniadau fatha, ‘dydi moroedd tawel ddim yn neud morwyr medrus’.

“A ma’ rhai ohonyn nhw jyst yn eiria' ffeind neu i neud efo galar achos dydy nhw gyd ddim yn mynd i fod yn berthnasol i bawb ond dyna’r peth da, fedri di ddewis a dethol y rhai sydd yn berthnasol.”

'Angen yr hwb 'na'

Mae Heledd yn falch iawn o’r prosiect ac yn teimlo fod pawb “angen yr hwb ‘na” ar adegau.

Image
S4C
Mae Heledd Owen wedi dechrau ei busnes dylunio ers dwy flynedd

Fel un sydd yn “styglo” gyda’i iechyd meddwl, mae Heledd yn teimlo bod hi’n bwysig bod negeseuon o’r fath yn ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol a chodi ymwybyddiaeth yr un pryd.

“Dwi’n falch o allu cynnig hynna yn Gymraeg achos dyna ma’ meddwl.org yn ei neud ydi cynnig gwybodaeth am iechyd a salwch meddwl yn Gymraeg felly da ni yn ara' deg yn dal fyny ond ma’ na dal bach o ffordd i fynd."

Dywedodd mai ei phrofiad ei hun o anhwylder iechyd meddwl oedd wedi ei hysgogi i feddwl am y Cardiau Caredig.

“Dyna pam nes i gychwyn rili achos dwi wedi stryglo efo iechyd meddwl fi yn y gorffennol a bob gaeaf dwi’n cael y seasonal affected disorder a ma’ gorbryder yn dod mewn ag allan o fy mywyd i.

“ O’n i jyst yn teimlo, os ydy neges neu ddyfyniad yn edrych yn neis, ti fwy tebygol o gymryd o fewn dwt wedyn - oedd o’n rili bwysig i fi neud rhywbeth bach fel ‘ma.”

Mae modd gweld y Cardiau Caredig ar wefan a thudalennau Instagram meddwl.org a Heledd Owen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.