Cynlluniau i dorri hyd at 91,000 o swyddi yn y gwasanaeth sifil

Mae Boris Johnson wedi mynnu bod ei gabinet yn llunio cynllun a allai dorri hyd at 91,000 o swyddi yn y gwasanaeth sifil i ryddhau arian i fynd i’r afael â chostau byw.
Defnyddiodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig gyfarfod Cabinet ‘costau byw’ ddydd Iau i orchymyn ei brif dîm i leddfu’r pwysau ariannol ar deuluoedd mewn trafferthion.
Dywedodd Mr Johnson: “Mae'n rhaid i ni dorri costau'r llywodraeth i leihau costau byw.”
Byddai'r gostyngiad yn arbed tua £3.5 biliwn y flwyddyn yn ôl y llywodraeth, gan ryddhau adnoddau i helpu i leddfu costau byw trwy doriadau treth neu fesurau eraill.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Rhif 10