Newyddion S4C

Antonio Corbisiero

Rheolwr Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth, Antonio Corbisiero, yn camu lawr

NS4C 12/05/2022

Mae Antonio Corbisiero wedi camu lawr fel rheolwr Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth.

Fe gafodd ei benodi yn rheolwr y tîm cyntaf ym mis Mehefin 2021, gan arwain y tîm i orffen yn yr wyth uchaf yn nhymor y flwyddyn ddiwethaf gyda buddugoliaethau yn erbyn TNS a'r Drenewydd. 

Yn ogystal, o dan Corbisiero, fe gyrhaeddon nhw rownd yr wyth olaf Cwpan Cymru a chael buddugoliaeth arwyddocaol yn erbyn y Bari fis diwethaf i sicrhau eu lle yn y Cymru Premier y flwyddyn nesaf.

Bydd ei is-reolwr, Gari Lewis, yn ogystal â'r hyfforddwyr, Stuart Jones, Bari Morgan a Dave Owen, yn camu lawr.

Dywedodd Cadeirydd Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth, Donald Kane, bod y clwb wedi eu "tristau o dderbyn ymddiswyddiad Antonio, yn enwedig ar ôl tymor positif ac addawol ar gyfer y dyfodol. Rydym ni'n parchu ac yn derbyn ei benderfyniad ac yn dymuno pob lwc iddo."

Mewn datganiad i'r clwb ddydd Iau, dywedodd Corbisiero ei bod hi wedi bod yn "bleser i fod yn rheolwr y tîm".

Ychwanegodd ei fod yn "dymuno yn dda i'r chwaraewyr, y pwyllgor, y cefnogwyr a'r rheolwr newydd ac yn dymuno'n dda iddyn nhw ar gyfer y tymor nesaf."

Llun: Gwefan CPD Tref Aberystwyth

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.