Mark Drakeford yn gwrthod galwadau am ymchwiliad i wasanaethau cymdeithasol
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi gwrthod galwadau i gynnal ymchwiliad annibynnol i'r gwasanaethau cymdeithasol yn dilyn llofruddiaeth Logan Mwangi.
Fe gafodd y bachgen pum mlwydd oed ei lofruddio gan ei fam, Angharad Williamson, ei phartner, John Cole, 39, a bachgen 14 oed, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, ym mis Gorffennaf y llynedd.
Fis yn unig cyn i Logan gael ei ladd, fe wnaeth gweithwyr cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ei dynnu oddi ar y gofrestr amddiffyn plant gan olygu nad oedd pryderon ei fod bellach mewn perygl o niwed difrifol.
Yn ôl yr Athro Donald Forrester o Brifysgol Caerdydd, mae angen ymchwiliad annibynnol i wasanaethau cymdeithasol plant yn Nghymru, fel sy'n digwydd yng ngweddill y Deyrnas Unedig.
Wrth siarad â gorsaf radio LBC ddydd Iau, dywedodd Mr Drakeford fod y "system dan bwysau aruthrol ac mae hynny’n rhannol oherwydd yn ystod y pandemig, nid oedd gweithwyr cymdeithasol yn gallu ymweld na chwrdd â phlant yn y ffordd y bydden nhw fel arfer, ac nawr maen nhw’n gorfod ymateb i restr o waith nad oedden nhw’n gallu cwblhau yn y ffordd arferol."
Fe wnaeth Mr Drakeford ddatgan nad oedd yn credu fod angen pwysleisio hyn wrth y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ond bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y "system dan bwysau" ac yn ceisio "gweithio’n galed i geisio ymateb i hynny."
Ychwanegodd Mr Drakeford bod angen bod yn ofalus i beidio "symud i ymateb mor gyffredinol ar gefn digwyddiad unigol."
Mewn ymateb i sylwadau'r Prif Weinidog, dywedodd aelod o'r Ceidwadwyr Cymreig a Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Cysgodol, Gareth Davies AS, nad oedd yn "gwybod pam bod y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd yn credu nad oes angen cynnal ymchwiliad annibynnol i wasanaethau cymdeithasol plant yng Nghymru.
"Mae tair gwlad arall y Deyrnas Unedig yn cynnal un a Chymru sydd gan y gyfradd waethaf o ran plant sy'n derbyn gofal." meddai.