Newyddion S4C

S4C

Putin yn amddiffyn goresgyniad Wcráin wrth i Rwsia nodi Diwrnod Buddugoliaeth

The Guardian 09/05/2022

Mae’r Arlywydd Vladimir Putin wedi amddiffyn goresgyniad Wcráin mewn araith sy’n nodi buddugoliaeth yr Undeb Sofietaidd dros yr Almaen Natsïaidd 77 o flynyddoedd yn ôl.

Daw’r orymdaith wrth i luoedd Rwsia ddwysáu’r ymosodiadau ar Wcráin, yn un o’r gwrthdaro mwyaf marwol yn Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd.

Yn ystod araith Putin yn Sgwâr Coch Moscow, ceisiodd gyfiawnhau y rhyfel yn Wcráin, gan ddweud bod NATO a Wcráin yn fygythiad “annerbyniol i ni”.

Mae’r digwyddiad yn ffordd i Putin arddangos byddin Rwsia i'r byd. Bydd milwyr, tanciau, rocedi a thaflegrau balistig yn gorymdeithio drwy’r brifddinas.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Wotchit

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.