Wrecsam yn cadw eu gobeithion o ennill y Gynghrair Genedlaethol yn fyw
Mae CPD Wrecsam yn cadw eu gobeithion o ennill y Gynghrair Genedlaethol yn fyw wrth iddynt guro Stockport 3-0 ddydd Sul.
Dim ond triphwynt oedd yn gwahanu'r ddau dîm ar frig y tabl cyn y gêm wrth iddynt gystadlu er mwyn ennill dyrchafiad awtomatig i Adran Dau.
O flaen torf o 10,000 o bobl yn y Cae Ras, bu’n rhaid i Wrecsam wrthsefyll cyfnod o bwysau gan Stockport ar ôl hanner awr gyda’r ymwelwyr yn cael sawl cyfle.
Profodd hyn yn sbardun i’r tîm cartref a daeth gôl gynta’r gêm ar ôl 33 munud gan yr ymosodwr Ollie Palmer gyda pheniad o dafliad hir.
Wrth i Stockport orfod ymosod, gwnaeth Wrecsam y gorau o’u cyfleoedd ac eiliadau cyn yr egwyl fe sgoriodd yr ymosodwr Paul Mullin yn hyderus gydag ergyd ar ôl i bas ei osod trwyddo gyda dim ond y golwr i'w guro.
Y sgôr ar yr egwyl oedd Wrecsam 2-0 Stockport.
Dechreuodd yr ail hanner yn y ffordd gorau posib i Wrecsam gydag ail gôl y gêm i Palmer ar ôl dim ond munud o’r chwarae.
Profodd y fantais yn ormod i Stockport ei goresgyn ac fe reolodd Wrecsam y gêm yn benigamp heb ildio dim i ennill o 3-0.
Mae’r fuddugoliaeth yn gosod tîm Phil Parkinson ar frig y gynghrair ar wahaniaeth goliau.
Ond mae gan Stockport y fantais o hyd gan eu bod wedi chwarae un gêm yn llai na Wrecsam hyd yn hyn.
Hyd yn oed os ydy Wrecsam yn ennill eu gêm olaf o'r tymor wythnos nesaf, mae dal angen iddynt ddibynnu ar dimau eraill i guro Stockport er mwyn cael unrhyw gyfle o ennill y gynghrair.
Llun: Twitter/CPD Wrecsam