Etholiadau Lleol 2022: Llais Gwynedd 'yn dal i fodoli'
Mae nifer o gynghorwyr ar Gyngor Gwynedd yn bwriadu ymuno a ffurfio grŵp dan enw Llais Gwynedd medd arweinydd Llais Gwynedd wrth Newyddion S4C.
Oherwydd salwch un o swyddogion y grŵp, methwyd â chofrestru ymgeiswyr Llais Gwynedd yn etholiadau lleol 2022, ac felly ar hyn o bryd nid oes ganddynt gynghorwyr yng Ngwynedd.
Ond dywedodd arweinydd Llais Gwynedd, Owain Williams fod y grŵp yn bwriadu parhau i'r dyfodol:
“Er ein bod ni heb gofrestru nid yw hynny’n golygu ein bod ni ddim yn bodoli.
"Ar y cyngor diwethaf oedd gynnon ni chwech – wel mae dal gynnon ni bedwar. Da ni wedi colli dwy sedd ond da ni wedi ennill un hefyd. Wel da ni yr wrthblaid gyda mond pedwar."
'Pwysig bod gwrthblaid'
Ffurfiwyd Llais Gwynedd yn wreiddiol yn dilyn penderfyniad bwrdd gweithredol Cyngor Gwynedd i gau nifer o ysgolion gwledig yn 2008.
Ychwanegodd Mr Williams: “Mae Llais Gwynedd yn parhau i fodoli, mae’n bwysig bod yna wrthblaid.
“Mae ffocws gennym ni yn barod ar fusnesau bach a llacio rheolau cynllunio i neud yn haws i fusnes bach sefydlu yn y wlad. Maen nhw’n tyfu yn fwy a chreu cyflogaeth. Busnesau bach sy’n creu swyddi. Mae angen neud pethe’n haws iddyn nhw ddatblygu.
“Mae’r iaith yn cael ei hachub hefyd trwy greu gwaith yn lleol. Mae’n bwysig i ferched gamu mlaen i sefyll hefyd.
“Ein bwriad yn y dyfodol yw cael mwy o ymgeiswyr ac ennill mwy o seddi."
“Watch this space,” ychwanegodd.