Newyddion S4C

Cynnig 'Tocyn Croeso' i ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru

08/05/2022
Ffoaduriaid Wcráin - Llun DEC

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd ffoaduriaid a phobl o Wcráin yn cael teithio am ddim ar fysiau yn ogystal â chael mynediad am ddim i safleoedd Cadw ar hyd a lled Cymru. 

Bwriad Tocyn Croeso ydy ei gwneud hi'n haws i'r rhai sy'n ffoi o wrthdaro ar hyd a lled y byd i allu integreiddio yng Nghymru, a bydd yn ychwanegu at y cynllun trafnidiaeth rheilffyrdd am ddim, sydd eisioes yn bodoli.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, y bydd y cynllun hefyd "yn caniatáu teithio am ddim diderfyn ar y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau lleol ledled Cymru a'r rhai sy'n gweithredu i Loegr, os ydynt yn dechrau neu'n gorffen yng Nghymru."

Mae modd i gwmnïau bysiau ar hyd a lled Cymru ddewis os ydynt yn dymuno cymryd rhan yn y cynllun gwirfoddol hwn. 

Yn ogystal, bydd modd i ffoaduriaid gael mynediad yn rhad ac am ddim i unrhyw safle Cadw yng Nghymru cyn belled â'u bod nhw'n darparu y dogfennau priodol gan y Swyddfa Gartref. 

Cymru yn Genedl Noddfa

Ychwanegodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: "Mae bod yn Genedl Noddfa yn golygu croesawu pobl i Gymru a rhoi cymorth a chefnogaeth iddynt i ymgartrefu yng Nghymru.

"Rydym yn falch iawn y gallwn ymestyn y cynlluniau gwych hyn i bobl o Wcráin."

Bydd Tocyn Cymru yn parhau am chwe mis, gyda chynllun mynediad am ddim Cadw yn parhau tan 25 Hydref eleni. 

Llun: DEC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.