Etholiadau Lleol 2022: Y Blaid Werdd yn creu hanes yn Sir Ddinbych

06/05/2022
Y Blaid Werdd

Mae'r Blaid Werdd wedi creu hanes yn Sir Ddinbych gan sicrhau dwy ward yn yr etholiadau lleol.

Cafodd Martyn Hogg ei ethol i gynrychioli Dwyrain Llanelwy, gyda John Harland yn cipio ward Canol Prestatyn o afael y Ceidwadwyr.

Llwyddodd Mr Hogg i sicrhau 310 o bleidleisiau, gyda Linda Nelson o'r Ceidwadwyr yn hawlio 270 o bleidleisiau.

Fe wnaeth 38.6% o'r bobl oedd yn gymwys i bleidleisio fwrw pleidlais, o gymharu gyda 35% yn 2017.

Am fwy o straeon o'r etholiad, ewch i is-hafan Etholiadau Lleol 2022 ar wefan Newyddion S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.