Teyrnged i'r dyn 'mwyaf caredig' fu farw mewn gwrthdrawiad ger Abertawe
Mae teulu dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ger Abertawe wedi rhoi teyrnged iddo.
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu y bydd "colled enfawr ar ei ôl, nid yn unig gan ei deulu, ond hefyd gan ei ffrindiau a holl gymuned Mosg Port Talbot. Rydym yn gweddïo am nerth i'n cael ni drwy'r cyfnod ofnadwy yma."
Ychwanegodd y teulu: "Asim oedd yr unigolyn mwyaf caredig y byddai unrhyw un yn gallu ei gyfarfod, roedd o'n gawr annwyl, penderfynol a phob amser yn hapus a siriol waeth beth y sefyllfa."
Mae Heddlu De Cymru yn parhau â'u hymholiadau, ac yn apelio am dystion i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd am oddeutu 19:25 nos Fawrth, 3 Mai ar Heol Maes Eglwys yng Ngwmrhydyceirw rhwng beic modur gwyn a cherbyd Audi du.
Mae'r llu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200146630.