
Etholiadau Lleol 2022: Y gwaith o gyfri'r pleidleisiau'n dechrau
Mae'r gwaith o agor y blychau pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau wedi dechrau ar hyd a lled Cymru fore dydd Gwener.
Mae'r pleidleisiau'n cael eu cyfri mewn canolfannau ar draws y wlad wedi'r etholiad ddydd Iau.
Mae arweinwyr y prif bleidiau a chynrychiolwyr annibynnol yn gobeithio cael eu hethol yn gynghorwyr lleol ar gyfer 22 o gynghorau sir Cymru.
Mae 1,234 sedd mewn 762 o wardiau cynghorau lleol yn y fantol i'r pleidiau, gyda rhai wardiau'n cynnwys mwy nag un sedd.
Mae 74 o gynghorwyr wedi eu hethol heb orfod ymgyrchu gan nad oedd neb yn sefyll yn eu herbyn.
Mae'r nifer uchaf o seddi sydd heb etholiad yng Ngwynedd, lle bydd 28 cynghorydd yn hawlio'u lle allan o 69 yn siambr y cyngor yn ddi-wrthwynebiad.
Cyngor Sir Penfro yw'r awdurdod gyda'r ail nifer uchaf o seddi sydd heb etholiad, gydag 19 cynghorydd allan o 60 ymgeisydd yn sicrhau tymor arall mewn grym heb wrthwynebiad.
Yn dilyn yr etholiadau lleol diwethaf yn 2017 roedd gan y Blaid Lafur 468 sedd, gyda chynghorwyr annibynnol yn hawlio 398 sedd, Plaid Cymru'n cipio 208, y Ceidwadwyr yn hawlio 184 a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn hawlio 73 o seddi.
Fe fydd cryn ddiddordeb mewn canlyniadau o dri chyngor penodol yng Nghymru.
Ym Mhen-y-bont ar Ogwr nid oes un blaid gyda mwyafrif ac fe all fod yn llinyn mesur o ddarlun ehangach ar boblogrwydd y prif bleidiau'n gyffredinol.
Bydd y Ceidwadwyr yn gobeithio cadw grym ar Gyngor Sir Mynwy - yr unig gyngor y mae'r blaid gyda mwyafrif o gynghorwyr drwy Gymru.
Ac mae Cyngor Sir Dinbych yn un all fod yn ras bedair ffordd rhwng y Ceidwadwyr, Plaid Cymru, y Blaid Lafur a chynghorwyr annibynnol.

Yn yr Alban fe fydd y gwaith o gyfrif pleidleisiau'n dechrau fore dydd Gwener hefyd.
Dywedodd dirprwy Brif Weinidog yr Alban, John Swinney, wrth Sky News fore dydd Gwener ei fod yn credu y bydd ei blaid, yr SNP, yn brif blaid yr Alban pan fydd yr holl ganlyniadau wedi eu cyhoeddi.
Mae hanner cynghorau sir Lloegr wedi dechrau'r gwaith o gyfrif pleidleisiau dros nos, gyda'r canlyniadau cynnar yn addawol i'r Blaid Lafur.
Mae'r blaid wedi cipio cyngor Wandsworth, oedd yn gadarnle i'r Ceidwadwyr a dan eu rheolaeth ers 1978. Roedd yn cael ei adnabod fel hoff gyngor Margaret Thatcher.
Mae Llafur hefyd wedi cipio grym ar gyngor Westminster - a hynny am y tro cyntaf ers i'r cyngor gael ei ffurfio yn 1964.
Gyda hanner y canlyniadau wedi eu cyhoeddi yn Lloegr fore dydd Gwener, mae'r rhagolygon yn awgrymu y gallai'r Ceidwadwyr golli 250 sedd yno.
Digon cymysg yw'r darlun mewn rhannau eraill o Loegr gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd yn perfformio'n dda mewn rhai ardaloedd.
Fe gipiodd y Democratiaid Rhyddfrydol gyngor Kingston Upon Hull o afael y Blaid Lafur ac mae'r Gwyrddion wedi hawlio cynghorau De Tyneside a'r Wirral.

Mae cryn ddyfalu am yr hyn all ddigwydd yng Ngogledd Iwerddon, gyda'r posibilrwydd y gall plaid weriniaethol Sinn Fein gael mwyafrif yno - peth fyddai'n ddaeargryn gwleidyddol yn y dalaith ar ôl i bleidiau unoliaethol fod mewn grym yno cyhyd.
Byddai sicrhau cytgord a chydweithio er mwyn rhannu grym yn Stormont yn dalcen caled os bydd Sinn Fein yn ennill mwyafrif.
Dyma fyddai'r tro cyntaf i wleidydd o blaid weriniaethol hawlio prif swydd wleidyddol yn y dalaith ers 101 o flynyddoedd petai Prif Weinidog nesaf y Cynulliad yno yn dod o rengoedd Sinn Fein.
Am fwy o straeon o'r etholiad, ewch i is-hafan Etholiadau Lleol 2022 ar wefan Newyddion S4C.
Prif lun: Cyngor Gwynedd