Apêl wedi i bedwar car heddlu gael eu difrodi yn Abertawe
04/05/2022
Apêl wedi i bedwar car heddlu gael eu difrodi yn Abertawe
Mae Heddlu'r De yn apelio am ragor o wybodaeth wedi i bedwar car heddlu gael eu difrodi yn Abertawe.
Cafodd ffenestri y ceir oedd wedi eu parcio'r tu allan i Orsaf Heddlu Townhill eu chwalu am tua 1:30 fore dydd Mawrth.
Mae lluniau camerâu cylch cyfyng yn dangos dau berson oedd yn gyrru beic modur yn taro ffenestri’r ceir.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gan ddefnyddio cyfeirnod 2200145520.