Newyddion S4C

x

Merched Cymru i wynebu Seland Newydd fis Mehefin

NS4C 04/05/2022

Bydd Cymru yn wynebu Seland Newydd, mewn gêm gyfeillgar ryngwladol ar ddydd Mawrth 28 o Fehefin yn Pinatar, Sbaen.

Fe wnaeth Cymru a Seland Newydd chwarae ddiwethaf ym mis Mehefin 2019, pan wnaeth gôl gan Kayleigh Green sicrhau buddugoliaeth 1-0 i Gymru yn Stadiwm Leckwith, Caerdydd.

Dyma’r ail dro fydd carfan Gemma Grainger yn teithio i dde-ddwyrain Sbaen eleni, ar ôl cymryd rhan mewn cystadleuaeth Cwpan Pinatar 2022 ym mis Chwefror.

Dywedodd rheolwr Cymru, Gemma Grainge: “Mae hwn yn gyfle da i ni baratoi ar gyfer ein gemau grŵp rhagbrofol olaf ym mis Medi. Dyma’r cam nesaf i ni ddatblygu’r tîm. Mae Seland Newydd yn safle uwch na Chymru yn ôl detholiadau FIFA, ac ni yn edrych ymlaen at herio ein hun yn erbyn tîm cryf unwaith eto.”

Image
S4C

Mae Seland Newydd wedi’i leoli yn yr 22ain safle yn ddetholiadau’r byd FIFA, a fydd y wlad yn cynnal pencampwriaeth Cwpan y Byd Merched FIFA gydag Awstralia blwyddyn nesaf.

Mae Cymru yn eistedd yn ail yn y grŵp rhagbrofol i gyrraedd y gystadleuaeth, gyda dau gêm allweddol i fynd yn erbyn Groeg a Slofenia er mwyn cyrraedd y gemau ail-gyfle.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.