Newyddion S4C

'Allan o bob rheolaeth': Trigolion tref yng Nghernyw yn cwyno am ddiffyg tai i bobl leol

The Sun 04/05/2022
St Ives

Mae trigolion un o drefi fwyaf poblogaidd Cernyw'n cwyno nad oes modd iddyn nhw gael mynediad i'r farchnad dai gan fod yr unig dai sydd ar werth yn cael eu troi'n llety gwyliau neu dai haf.

Dywedodd rhai o drigolion St Ives wrth The Sun eu bod yn teimlo fel dim mwy na gweithwyr mewn parc hamdden yn eu cymunedau eu hunain, gydag un dyn yn dweud bod angen swyddi o ansawdd gwell a thai llawer iawn mwy fforddiadwy.

Mae dros 550,000 o ymwelwyr yn llifo i'r dref am y dydd yn flynyddol, gyda dros 220,000 yn aros yno ar wyliau hefyd.

Dywedodd Camilla Dixon o grŵp ymgyrchu First Not Second Homes bod pobl gyfoethog yn dod i St Ives ar wyliau tra bod un o bob tri plentyn yn y dref yn byw mewn tlodi.

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.