Newyddion S4C

Dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad mewn garej yn Sir Y Fflint

03/05/2022
Creative Commons
Creative Commons

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad mewn garej yn Sir y Fflint.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle Premier Garage ym mhentref Bretton tua 8.40 fore Mawrth.

Roedd y dyn a oedd yn dod o ogledd Lloegr wedi marw erbyn iddo gyrraedd yr ysbyty. Roedd cerbyd Ford Ranger yn y gwrthdrawiad.

Mae'r heddlu wedi cysylltu â theulu'r dyn a fu farw, ac mae'r ymchwiliad yn parhau. 

Mae Heddlu'r Gogledd yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio cyfeirnod B062423.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.