Llacio canllawiau Covid-19 ysgolion Cymru ymhellach
Fe fydd y rheolau Covid-19 yn cael eu llacio ymhellach yn ysgolion Cymru.
Bydd hyn yn golygu y bydd yr un rheolau yn bresennol mewn busnesau ac ysgolion.
Ers mis Medi 2021, mae fframwaith wedi eu rhoi ar waith mewn ysgolion i ddewis mesurau lleol addas i atal coronafeirws rhag lledaenu mewn ysgolion.
Bellach, ni fydd yr angen i'r fframwaith hwn gael ei defnyddio gan ysgolion.
Fe ysgrifennodd y llywodraeth at ysgolion Cymru fore Mawrth i'w hysbysu o'r newidiadau.
Yn ôl y llywodraeth mae'r cam hwn yn rhan o'u cynllun pontio Covid-19 wrth i'r feirws symud o fod yn bandemig i fod yn endemig.
Bydd cyngor yn parhau i ysgolion a cholegau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y mesurau ar waith yn parhau i fod yn rhai addas.
Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd y cyfyngiadau coronafeirws sydd ar ôl yn cael eu dileu o 9 Mai ymlaen.
Bydd rhestr ar gael i gynghori lleoliadau addysg i ystyried pa fesurau sydd eu hangen.
Bydd ysgolion arbennig yn parhau i ddilyn cyngor yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n wynebu risg glinigol uwch.
Yng nghynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru fe ddywedodd y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, Jeremy Miles: “Yn unol â'r canllawiau iechyd cyhoeddus ehangach a gyhoeddwyd fel rhan o'r adolygiad tair wythnos diwethaf, rydym wedi ysgrifennu at benaethiaid ysgolion heddiw i dynnu sylw at y newidiadau sydd ar ddod yn ein cyngor i ysgolion, sy'n adlewyrchu'r newid o bandemig i endemig. Drwy hyn, gwneir yn siŵr bod canllawiau i ysgolion yn fwy cyson â gweddill y gymdeithas."