Newyddion S4C

Llwyddiant sioe gynta'r flwyddyn wedi bwlch o ddwy flynedd a hanner

Llwyddiant sioe gynta'r flwyddyn wedi bwlch o ddwy flynedd a hanner

Teithiodd miloedd o bobl i Nefyn ym Mhen Llŷn ddydd Llun ar gyfer sioe amaethyddol gynta'r flwyddyn.

Doedd Sioe Nefyn ddim wedi ei chynnal ers Medi 2019 ar ôl cael ei gohirio oherwydd Covid-19.

Roedd y digwyddiad eleni yn "ffenest siop" i arddangos diwydiant amaeth y gogledd ac yn gyfle i bobl ddod yn ôl at ei gilydd, yn ôl ysgrifennydd y sioe Eirian Hughes.

"Tydy o'n fendigedig, jest gweld bwrlwm y cae", meddai.

"Gweld bobl yn cwrdd â'i gilydd eto ar ôl ffasiwn amser o dan glo, a gweld y stoc gwych yma allan. 

"I feddwl bod 'na doriad o ddwy flynadd, mae'r safon yn anhygoel yndydy?"

Roedd ymwelwyr â'r sioe yn credu ei bod hi'n holl bwysig ail-gydio mewn digwyddiadau cymunedol fel sioeau er lles iechyd meddwl, ac yn gwerthfawrogi'r cyfle i gymdeithasu unwaith eto.  

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.