Newyddion S4C

Wcráin: Proses ymgeisio am fisa i ddod i'r DU yn 'gymhleth'

Newyddion S4C 02/05/2022

Wcráin: Proses ymgeisio am fisa i ddod i'r DU yn 'gymhleth'

Mae'r system i ffoaduriaid o Wcráin i ymgeisio am fisas yn rhy gymhleth, yn ôl dynes o Wcráin yn wreiddiol sydd wedi croesawu ei mam a llystad i Gymru.

Fe ddaeth y ddau i Gaernarfon at Nataliia Roberts a'i theulu ar fisa gwyliau, ond roedd yn rhaid newid eu cais i fod yn ffoaduriaid os oedden nhw am aros.

Mae ffrind ysgol Nataliia wedi bod yn anfon dyddiaduron fideo ati o ddinas Mariupol.

Ar ôl llwyddo i ddianc, mae Yuliia a'i merched bellach yng Ngwlad Pwyl yn cael trefn ar ddogfennau a phasbort, ond mae Nataliia yn awyddus iddyn nhw ddod i Gymru.

Dywedodd Nataliia wrth ohebydd Newyddion S4C Elen Wyn: "Roeddwn yn breuddwydio y bydd hi yma, ac y gallan nhw gael bywyd hapusach.  Dwi ddim yn gwybod, byddwn i'n hoff iawn o hynny."

Mae 10,000 o bobl wedi cynnig rhoi cartref i ffoaduriaid, ond hyd yma dim ond 2,300 o fisas sydd wedi eu caniatáu gan y Swyddfa Gartref.

Mae swyddogion yno yn dweud fod y drefnu yn symlach a bod mwy o staff yn gweithio er mwyn cyflymu'r broses.

Mae'r teulu dan straen wrth ddilyn y sefyllfa yn Wcráin ond un peth sy'n llonni'r galon yw paned a chroeso Caernarfon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.