Bwyty prydau cyflym ym Môn i gynnig lloches i ferched a menywod
Mae bwyty prydau cyflym yn Ynys Môn yn cynnig lloches i ferched a menywod fel rhan o gynllun newydd ar y cyd â Heddlu'r Gogledd.
Fe fydd McDonalds Caergybi yn cynnig "Hafan Diogel" - lle i ferched ifanc sy'n teimlo'n anghyfforddus tra'u bod nhw allan, neu fenywod sy'n ffoi rhag trais yn y cartref.
Mae achosion diweddar gan gynnwys llofruddiaethau Sabina Nessa a Sarah Everard yn ne ddwyrain Lloegr wedi codi ymwybyddiaeth am ddiogelwch menywod, gan sbarduno cynigion tebyg gan nifer o fusnesau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.
Dywedodd y Rhingyll Dylan Thomas o uned Blismona Caergybi fod hwn yn gam a gafodd ei gymryd "mewn ymateb i awgrymiadau a gafodd eu codi mewn holiadur diweddar".
Wrth dalu yn y Drive Thru neu wrth y cownter, bydd modd i ferched ddefnyddio côd penodol drwy ofyn i "siarad ag Ani" cyn iddyn nhw gael eu cludo i ardal breifat o'r adeilad tra bod aelod o staff yn galw'r heddlu.
Mae mwy o fanylion a chefnogaeth i bobl sy'n byw ag effeithiau trais yn y cartref ar gael ar wefan S4C Cymorth.