Mark Williams yn colli i Judd Trump yn rownd gynderfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd
30/04/2022
Mae Mark Williams wedi methu yn ei ymgais i gyrraedd rownd gynderfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd.
Fe gollodd y Cymro, sydd wedi ennill y Bencampwriaeth deirgwaith, mewn gêm eithriadol o agos aeth lawr i’r ffrâm olaf ar ôl iddo edrych allan ohoni yn gynnar yn y gêm.
Ar un adeg roedd yn saith ffrâm i un tu ôl cyn brwydro nôl i 16-16.
Aeth Trump, o Loegr, ar y blaen yn y ffrâm olaf ac roedd angen o leiaf un snwcer ar Williams os oedd am ennill.
Fe suddodd Trump y bêl las i sicrhau’r fuddugoliaeth iddo fe a chwalu ymdrech lew Williams.
Llun: Asiantaeth Huw Evans