Newyddion S4C

Cymru'n colli yn yr eiliadau olaf yn erbyn Yr Eidal yn y Chwe Gwlad

30/04/2022
Cymru yn erbyn Yr Eidal

Mae tîm rygbi merched Cymru wedi colli'r gêm olaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Yr Eidal ar Barc yr Arfau yng Nghaerdydd o 10-8.

Fe ddechreuodd Cymru'r gêm yn addawol iawn gan fwynhau mwyafrif y meddiant a’r diriogaeth yn yr 20 munud cyntaf.

Ond daeth ergyd i’w hymdrechion wrth i’r maswr Robyn Wilkins a’r wythwr Sioned Harries dderbyn cardiau melyn am daclo’n uchel ar ôl 20 munud.

Profodd hyn yn gostus wrth i’r Eidal fanteisio gan sgori cais agoriadol y gêm i’r mewnwr Sara Barattin gyda’r maswr Sillari yn trosi i osod yr ymwelwyr ar y blaen o saith pwynt i ddim ar yr egwyl.

Bu'n rhaid i Gymru aros tan y deng munud olaf am bwyntiau cynta'r gêm gyda chic gosb gan y maswr Robyn Wilkins i leihau'r bwlch i bedwar pwynt.

Profodd y penderfyniad yn ddoeth wrth i Gymru groesi am gais gyda phedair munud yn weddill gan y mewnwr Keira Bevan yn dilyn sgrymio grymus.

Methwyd y trosiad ond roedd Cymru ar y blaen o bwynt.

Aeth Yr Eidal ar y blaen unwaith eto o gic gosb ar ôl i Gymru droseddi yn agos at y 22.

Gydag eiliadau yn unig yn weddill profodd hyn yn ddigon i'r Eidal ennill y gêm.

Ar ôl ennill y ddwy gêm gyntaf yn y gystadleuaeth yn erbyn Yr Iwerddon a'r Alban, fe gollodd tîm Ioan Cunningham y tair gêm nesaf yn erbyn Lloegr, Ffrainc a nawr Yr Eidal.

Er y siom o golli yn erbyn Yr Eidal, roedd y pwynt bonws a gafwyd yn ddigon i Gymru orffen yn y trydydd safle yn y Bencampwriaeth.

Y sgôr terfynol Cymru 8-10 Yr Eidal.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.