Yr AS Ceidwadol Neil Parish dan ymchwiliad am wylio pornograffi yn Nhŷ’r Cyffredin

Mae'r Aelod Seneddol Ceidwadol, Neil Parish, o dan ymchwiliad yn dilyn honiadau ei fod wedi gwylio pornograffi yn ystod dadl yn Nhŷ’r Cyffredin.
Mae'r Blaid Geidwadol wedi tynnu'r chwip oddi wrth yr AS dros Tiverton a Honiton yn Nyfnaint, a'i wahardd o'r blaid yn sgil yr ymchwiliad.
Daw'r honiadau yn dilyn cwyn ddydd Mawrth gan grŵp o ASau Ceidwadol benywaidd i'r Prif Chwip, Chris Heaton-Harris.
Yn ôl swyddfa Mr Heaton-Harris fe wnaeth Mr Parish gyfeirio ei hun at y Bwyllgor Safonau'r Tŷ.
Darllenwch fwy yma.