Newyddion S4C

Clwb pêl-droed Abertawe yn condemnio fideo hiliol honedig gan gefnogwr Caerdydd

29/04/2022
Abertawe vs Caerdydd

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi datgan eu bod nhw'n condemnio fideo hiliol honedig gan gefnogwyr Caerdydd yn llwyr.

Mae'r fideo, a gafodd ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol, yn dangos cefnogwr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn sarhau chwaraewr Abertawe, Michael Obafemi, yn hiliol yn ystod buddugoliaeth yr Elyrch o 4-0 ar 2 Ebrill. 

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd clwb pêl-droed Abertawe eu bod nhw'n "ymwybodol" o fideo ar gyfryngau cymdeithasol o'r gêm yn erbyn Caerdydd.

"Rydym ni'n condemnio yn llwyr yr iaith hiliol yn y fideo ac rydym yn gweithio hefo Heddlu De Cymru a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd gyda'u hymholiadau." 

Ychwanegodd y clwb nad oes "unrhyw le am ymddygiad fel hyn yn ein cymdeithas, heb sôn am bêl-droed, ac mae'r clwb yn cefnogi ein chwaraewyr a'n staff yn llwyr er mwyn cael gwared ar bob math o wahaniaethu yn ein gêm."

Llun: Gwefan Clwb Pêl-droed Abertawe

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.