Teyrnged i barafeddyg 'diwyd' fu farw mewn gwrthdrawiad ger Betws-y-Coed
Mae teulu parafeddyg fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ger Betws-y-Coed, Sir Conwy, wedi rhoi teyrnged iddo.
Roedd Mark Pell yn gweithio fel parafeddyg i Wasanaeth Ambiwlans Llundain ers 1994.
Roedd yn un o ddau barafeddyg o Wasanaeth Ambiwlans Llundain oedd ar gwrs hyfforddiant gydag Uned Hyfforddi Gyrwyr Heddlu Gogledd Cymru ar adeg y gwrthdrawiad.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A5 ychydig wedi 14:30 ddydd Iau, 7 Ebrill.
Bu farw ar ddydd Mercher, 13 Ebrill yn Ysbyty Stoke, ar ôl dioddef anafiadau difrifol yn y gwrthdrawiad.
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu fod "Mark yn ffrind i bawb" a bod "ei garedigrwydd a'i drugaredd yn disgleirio ym mhopeth y gwnaeth".
Ychwanegon nhw ei fod yn "ddiwyd a phroffesiynol ac na fydd byth yn cael ei anghofio".
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth ac mae ymchwiliad llawn wedi dechrau i ddarganfod amgylchiadau'r gwrthdrawiad.
Maen nhw'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio cyfeirnod 22000239178.