Angen i'r gorllewin amddiffyn Wcráin gydag arfau mwy grymus medd Liz Truss

Mae Gweinidog Tramor Llywodraeth y DU wedi dweud bod angen i wledydd y gorllewin amddiffyn Wcráin yn fwy grymus rhag ynosodiadau Rwsia.
Wrth siarad nos Fercher yn Mansion House, Llundain, dywedodd Ms Truss fod angen cynnig arfau trymion a chefnogaeth gydag awyrennau er mwyn sicrhau bod lluoedd Vladimir Putin yn cael eu trechu.
Hyd yma mae cynghreiriaid NATO wedi darparu arfau ysgafn i luoedd Wcráin, ac fe fyddai darparu arfau trwm fel tanciau yn ddatblygiad sylweddol ac arwyddocaol yn y gwrthdaro petai'n digwydd.
Brynhawn dydd Mercher fe rybuddiodd arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, y byddai unrhyw fygythiadau gan wledydd sydd yn ymyrryd yn allanol yn erbyn ymgyrch filwrol ei wlad yn Wcráin yn wynebu "ymateb chwim."
Darllenwch ragor yma.