'Mae'n bwysig holi a herio': Barn etholwyr ifanc sy'n pleidleisio am y tro cyntaf

'Mae'n bwysig holi a herio': Barn etholwyr ifanc sy'n pleidleisio am y tro cyntaf
Fe fydd yr etholiadau lleol yn cael eu cynnal ar 5 Mai, gyda'r cyfle i fwrw pleidlais am y tro cyntaf yn brofiad newydd i filoedd o bleidleiswyr ifanc ar hyd a lled Cymru. Mae rhaglen Newyddion S4C wedi bod yn siarad gyda nifer o bleidleiswyr ifanc yn y gorllewin am eu disgwyliadau.
Roedd cymaint o ddiddordeb gan bobl ifanc yn ardal Tregaron, Ceredigion yn yr etholiad yn lleol fel eu bod wedi cynnal cyfarfod hystings yn neuadd bentref Bronant i roi cyfle i’r ymgeiswyr gael dweud eu dweud.
Roedd y noson wedi ei threfnu yn y gobaith o ddenu pobl ifanc i'r digwyddiad ac i godi ymwybyddiaeth o wleidyddiaeth leol hefyd.
Dywedodd William oedd wedi helpu i drefnu’r noson wrth Newyddion S4C eu bod wedi teimlo y byddai’n gyfle iddyn nhw “ddod i adnabod y tri ymgeisydd.”
Herio
Dywedodd Megan, oedd yno hefyd: “Dwi’n teimlo fel dros y blynyddoedd diwethaf mae ysbryd y gymdeithas wedi diflannu, so bydd yn neis cael gwybod be maen nhw efo i trial cael yr ysbryd yn ôl yn fyw yn y gymdeithas.”
Ychwanegodd Catrin: “Pan oeddwn i’n oed William a Megan, d’oedd dim fan hyn yn digwydd. Dwi’n credu ei bod hi’n bwysig iawn eu bod nhw yn cael y cyfle i holi ac i herio – i ofyn y cwestiynau yma wyneb i wyneb.”
Mae gwleidyddiaeth o ddiddordeb i ddisgyblion yn Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin hefyd – sydd ag arholiad yn y pwnc ymhen pythefnos.
Sut felly mae denu mwy o’r to ifanc i ddilyn democratiaeth leol? Dywedodd Hannah wrth Newyddion S4C fod angen ei wneud "ychydig mwy deniadol."
"Rwy’n credu bod lot o bobl – yn enwedig pobol ifanc yn gweld gwleidyddiaeth fel rhywbeth ‘hen’, rhywbeth ychydig bach yn controversial efalle . . . gwneud e yn fwy hwylus, gwneud e yn fwy syml.”
'Diffyg dewis'
Dywedodd Catrin fod diffyg dewis ymgeiswyr yn broblem iddi: “Yn fy ardal i, dim ond dou ymgeisydd sydd ar gael a dwi yn credu bod lot o bobol ddim yn dewis pleidleisio wedyn achos mae ‘na diffyg dewis yn ‘neud nhw meddwl bod yna ddim lot o gynrychiolaeth a bod ddim lot o point iddyn nhw bleidleisio "
Dywedodd Carwyn wrth Newyddion S4C: “O’n i o blaid newid yr oedran ond falle bod hwnna o achos bod barn bersonol fi ond fi’n meddwl bod angen cael rhagor o bobl ifanc i mewn i wleidyddiaeth oherwydd pobl ifanc yw’r dyfodol felly.
"Bydde fe yn ddiddorol ‘falle i gynyddu’r gwersi gwleidyddiaeth falle i fwydo fe mewn i wersi da ni yn ei gael yn yr ysgol.”
Nid oedd y broses o gofrestru ar gyfer pleidleisio'n ddigon rhwydd yn ôl Frank: “O’dd y broses yn eithaf cymhleth. Roedd angen eich rhif yswiriant cenedlaethol chi ac efalle bod perygl rhoi pobl off cofrestru i bleidleisio jyst cos mae’n cymryd cymaint o amser i’w ‘neud e.”