Ymchwilio i honiadau bod AS Ceidwadol wedi gwylio pornograffi yn Nhŷ’r Cyffredin

Mae'r Blaid Geidwadol yn ymchwilio i honiadau bod un o'i aelodau seneddol wedi gwylio pornograffi yn ystod sesiwn yn Nhŷ’r Cyffredin.
Yn ôl The Mirror, cafodd yr ymchwiliad ei lansio gan brif chwip y Ceidwadwyr yn dilyn cwyn gan AS benywaidd bod yr aelod, sydd yn eistedd ar y meinciau blaen, yn gwylio pornograffi wrth eistedd wrth ei hymyl yn San Steffan.
Dywedodd swyddfa'r Prif Chwip, Chris Heaton-Harris, fod yr ymddygiad yn "hollol annerbyniol" wedi i grŵp o ASau benywaidd gynnal cyfarfod i gwyno am ymddygiad rhai o fewn y Blaid Geidwadol.
Mae'r newyddion yn dilyn beirniadaeth chwyrn dros y penwythnos wedi i'r Mail on Sunday gyhoeddi stori yn honni bod ASau Ceidwadol wedi dweud bod Canghellor Cysgodol y Blaid Lafur, Angela Rayner, yn ceisio "tynnu sylw" Boris Johnson gyda'i choesau yn ystod dadleuon yn San Steffan.
Mae The Mirror hefyd yn adrodd bod dros 50 o ASau Ceidwadol, gan gynnwys tri aelod o'r cabinet, yn wynebu honiadau o gamymddygiad rhywiol yn dilyn adroddiad i system gwynion annibynnol y Senedd.
Darllench fwy yma.