Adroddiad yn annog pobl ifanc i herio aflonyddu rhywiol mewn ysgolion
Mae adroddiad newydd wedi ei gyhoeddi sydd yn annog pobl ifanc i herio aflonyddu rhywiol ac ymddygiad amhriodol gan ddisgyblion eraill.
Y corff arolygu ysgolion, Estyn, sy'n cyhoeddi'r adroddiad fydd yn cynorthwyo ysgolion i "adnabod a herio" aflonyddu rhywiol ymhlith disgyblion.
Daw'r adroddiad ar gefn casgliadau adroddiad arall gan Estyn o fis Rhagfyr ar brofiadau disgyblion ysgolion uwchradd Cymru o aflonyddu rhywiol.
Cafodd 1,300 o ddisgyblion rhwng 12 a 18 eu holi, gyda nifer yn dweud fod aflonyddu rhwng disgyblion yn bennaf yn digwydd ar-lein neu'r tu allan i'r ysgol.
Yn ôl casgliadau arolygwyr Estyn ar y pryd, dim ond dau o bob 10 disgybl oedd wedi cael profiad o aflonyddu rhywiol oedd yn dweud wrth athro.
Mae'r adroddiad newydd yn cynnwys nifer o bwyntiau trafod posib y gall ysgolion a chynghorau eu defnyddio.
Y nod yw galluogi ysgolion i herio'r ymddygiad ac annog trafodaeth agored medd Estyn.
Mae'r ddogfen hefyd yn nodi cysylltiadau defnyddiol i ddisgyblion gael cymorth pellach gan gynnwys Childline, NSPCC a Chomisiynydd Plant Cymru.