Y DJ Tim Westwood yn gwadu honiadau o gamymddwyn rhywiol yn erbyn menywod

Y DJ Tim Westwood. Llun: WiciCommons
Mae'r DJ Tim Westwood yn destun honiadau o gamymddwyn yn rhywiol yn ei erbyn gan nifer o fenywod sy'n honni iddo gamddefnyddio ei safle fel DJ adnabyddus i fanteisio arnynt.
Mae tair menyw wedi cyhuddo'r DJ o gamymddwyn yn rhywiol, tra bod pedair arall yn honni ei fod wedi'u cyffwrdd yn amhriodol mewn digwyddiadau.
Mae Mr Westwood wedi gwadu'r holl honiadau yn ei erbyn - honiadau sy'n deillio o gyfnod rhwng 1992 a 2017.
Mae’r menywod, oedd yn eu harddegau hwyr neu eu hugeiniau pan honnir fod y digwyddiadau wedi digwydd, wedi rhannu eu profiadau gyda The Guardian a'r BBC.
Darllenwch ragor yma: